Croeso i GGP Law

 

Mae GGP Law yn gwmni modern, blaengar o gyfreithwyr sy’n darparu cyngor cyfreithiol arbenigol i unigolion a busnesau ledled De Cymru a thu hwnt.

Sefydlwyd y cwmni gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr presennol, Gwyn George ym 1983. Yn ystod y 35 mlynedd diwethaf mae’r cwmni wedi tyfu’n sylweddol ac mae nawr yn gweithredu o dair cangen yn Aberdâr, y Coed Duon a Merthyr Tudful. Arweinir GGP Law nawr gan Gwyn George, Sara Green, Karen Herbert, Rhodri Owen, Lisa Shrimpton ac Alexandra Jones.

Rydym yn sicrhau lefel o arbenigedd, gwybodaeth ac ymroddiad ar gyfer ein cleientiaid sydd wedi ennill enw da rhagorol i’n cwmni. Ein nod yw cyflwyno gwasanaeth o’r lefel uchaf, cyngor clir ac ymagwedd synhwyrol ar gyfer ein cleientiaid. Rydym yn gwybod bod ein cleientiaid yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth personol y gall ein cyfreithwyr ei roi.

Yn GGP Law rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod ein cleientiaid yn teimlo’n gyfforddus gydag agwedd gyfeillgar ac agos-atoch.

Rydym yn falch ein bod yn cael ein cydnabod gan Gymdeithas y Gyfraith am ein rhagoriaeth mewn rheoli practis gydag achrediad Lexcel. Rydym yn ymfalchïo yn ein harbenigedd ac mae Cymdeithas y Gyfraith yn ein hachredu ar gyfer gwaith Trawsgludo, Teulu, Plant ac Anaf Personol. Goruchwylir ein tîm Ewyllysiau a Phrofiant gan Aelod Llawn o’r Gymdeithas ar gyfer Ymarferwyr Ymddiriedolaeth ac Ystad. Mae ein cleientiaid yn deall pan fyddant yn gofyn i ni weithredu ar eu rhan, maent yn derbyn y cyngor gorau posibl.

I gael mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau, ewch i neu cysylltwch ag un o’n swyddfeydd gyda’r manylion cyswllt a roddir isod:

Aberdâr: [email protected]  -neu- 01685 871133

Merthyr Tudful: [email protected] -neu- 01685 371153

Y Coed Duon: [email protected] -neu- 01495 222214

 

Ein Hachrediadau

Yn GGP Law, rydym yn gwybod y gall fod yn anodd dewis y cyfreithiwr iawn. Mae nifer o’n cleientiaid yn dod atom oherwydd iddynt dderbyn argymhellion personol neu broffesiynol ond nid oes gan lawer o bobl yr opsiwn o ofyn i ffrindiau neu deulu ac mae rhai materion cyfreithiol yn ddealladwy yn breifat iawn. Mae’n hanfodol eich bod yn gofyn i gwmni y gallwch ymddiried ynddo ac sydd â phrofiad ac arbenigedd yn y maes cywir o gyfraith weithredu ar eich rhan.

I’ch helpu i ddewis, mae Cymdeithas y Gyfraith yn dyfarnu achrediadau i gwmnïau ac unigolion sy’n, “cwrdd â’r safonau uchaf o arbenigedd technegol a gwasanaeth cleientiaid mewn meysydd penodol o’r gyfraith”.

Mae gan GGP Law amrywiaeth eang o’r achrediadau hyn, gan ddangos ein hymrwymiad i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cleientiaid. Cydnabyddir ein pobl fel arbenigwyr ac maent yn darparu cyngor cyfreithiol arbenigol yn eu meysydd. Cydnabyddiaeth a sicrwydd o’n gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd yw’r achrediadau hyn.

Pan fyddwch yn gweld ein logos marc ansawdd, byddwch yn gwybod bod y sgiliau cyfreithiol technegol a’r safonau gwasanaeth cleientiaid wedi’u profi’n drwyadl ac yn annibynnol gan Gymdeithas y Gyfraith”. (Lexcel)

Mae marc achredu Cyfraith Plant ar gyfer arbenigwyr ymhob maes o’r gyfraith sy’n ymwneud â phlant. Mae dalwyr y marc hwn yn arbenigwyr mewn achosion sy’n cynnwys y gwasanaethau cymdeithasol, mabwysiadu, amddiffyn plant ac achosion i benderfynu gyda phwy y dylai plentyn fyw neu bwy y dylent weld. Mae gan GGP Law dîm o arbenigwyr sydd wedi ymrwymo i bob agwedd o gyfraith plant. Mae ein cyfreithwyr yn derbyn cyfarwyddiadau gan CAFCASS ac yn uniongyrchol gan blant yn rheolaidd.

Y Cynllun Ansawdd Trawsgludo (CQS) yw’r marc ansawdd a gydnabyddir ar gyfer prynu neu werthu eiddo. Dyfarnir CQS i gwmnïau, ond mae’n rhaid i bob unigolyn yn yr adran ddangos eu bod yn cwrdd â’r safonau uchel sydd eu hangen. Achredir GGP Law gan Gymdeithas y Gyfraith am fod yn arbenigwyr mewn materion trawsgludo sy’n golygu ein bod yn gallu gweithredu ar ran yr 11 prif fenthyciwr morgais a gall ein cleientiaid deimlo’n hyderus y byddant yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl.

Mae gan GGP Law arbenigwyr a gydnabyddir ym maes Cyfraith Teulu. Mae Cynllun Uwch Cyfraith Teulu’n cydnabod profiad, gwybodaeth ac arfer gorau  neilltuol. Mae’n rhaid i ddalwyr yr achrediad ddangos gallu i ddelio â’r achosion mwyaf cymhleth ac ymgymryd â phroses asesu drwyadl yn rheolaidd.

Mae tîm Ewyllysiau a Phrofiant GGP yn cynnwys Aelod Llawn o STEP, y rhwydwaith proffesiynol ar gyfer ymarferwyr sy’n arbenigo mewn etifeddiaeth teulu a chynllunio olyniaeth. Mae aelodau STEP yn arbenigwyr mewn drafftio ewyllysiau ac ymddiriedolaethau cymhleth ac maent wedi ymrwymo i ddatblygiad personol yn y maes arbenigol hwn.

Mae gan GGP Law achrediad Lexcel sef marc ansawdd Cymdeithas y Gyfraith ar gyfer practisiau cyfreithiol, ac mae’n eich sicrhau ein bod yn gweithio i’r safonau uchaf o wasanaeth a gofal cleientiaid. Mae gennym hefyd yr achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddatblygu a gwella ein busnes trwy ddefnyddio talent ein staff.